Cofnodion y cyfarfod diwethaf
15 Gorffennaf 2015
12:30-13:20
Ystafell Gynadledda 24, Tŷ Hywel
YN BRESENNOL: |
||
|
||
David Rees AC (Cadeirydd) |
DR |
Aberafan (Llafur Cymru) |
Mike Hedges AC |
MH |
Dwyrain Abertawe (Llafur Cymru) |
|
||
Ioan Bellin |
IB |
Staff Cymorth Simon Thomas AC |
Shannon Curran |
SC |
Staff Cymorth David Rees AC |
Siân Donne |
SDo |
Staff Cymorth Democratiaid Rhyddfrydol Cymru / Kirsty Williams AC |
Craig Lawton |
CL |
Staff Cymorth Suzy Davies AC |
Mark Major |
MM |
Staff Cymorth Altaf Hussain AC |
Claire Stowell |
CS |
Staff Cymorth Rebecca Evans AC |
|
||
Katie Dalton (ysgrifennydd) |
KD |
Gofal |
Suzanne Duval |
SDu |
Diverse Cymru |
Emma Harris |
EHa |
Y Samariaid |
Ewan Hilton |
EHi |
Gofal |
Richard Jones |
RJ |
Mental Health Matters Wales |
Sarah Stone |
SS |
Y Samariaid |
Jonathan Willey |
JW |
Hafal |
CPGMH/NAW4/46 - Croeso ac ymddiheuriadau |
Camau gweithredu |
Croesawodd DR bawb a oedd yn bresennol i gyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Iechyd Meddwl.
Ymddiheuriadau gan aelodau absennol: · Bethan Jenkins AC (Plaid Cymru) · David Melding AC (Ceidwadwyr Cymreig) · Eluned Parrott AC (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru) · Gwenda Thomas AC (Llafur Cymru) · Rhiannon Hedge (Mind Cymru) · Linda Newton (Gweithredu ar Iechyd Meddwl Cymru) · Janet Pardue-Wood (Mind Cymru) |
|
CPGMH/NAW4/47 - Cofnodion y cyfarfod diwethaf |
Camau gweithredu |
CYMERADWYWYD Cofnodion y cyfarfod diwethaf. |
|
CPGMH/NAW4/48 - Camau gweithredu o'r cyfarfod diwethaf |
Camau gweithredu |
Rhoddodd KD y wybodaeth ddiweddaraf i'r grŵp am y camau a gymerwyd ers y cyfarfod diwethaf.
CPGMH/NAW4/24 - Mynediad at therapi seicolegol yng Nghymru a ffyrdd o'i ddarparu CAM I'W GYMRYD: KD i ddosbarthu ymateb y Gweinidog i'r Aelodau Y WYBODAETH DDIWEDDARAF: Mae'r llythyr gwreiddiol a'r ymateb wedi cael eu dosbarthu
CPGMH/NAW4/40 - Adolygiad o'r cyllid a neilltuwyd ar gyfer iechyd meddwl CAM I'W GYMRYD: KD i ddosbarthu'r cwestiynau a'r wybodaeth berthnasol arall i Aelodau'r Cynulliad Y WYBODAETH DDIWEDDARAF: Mae'r cwestiynau a gwybodaeth bellach wedi cael eu dosbarthu
CPGMH/NAW4/41 - Adroddiad Law yn Llaw at Iechyd Meddwl CAM I'W GYMRYD: RC i gasglu gwybodaeth am waith NCMH a'i dosbarthu Y WYBODAETH DDIWEDDARAF: Anhysbys - RC wedi gadael Mind Cymru ers hynny
CPGMH/NAW4/45 - Adroddiad Blynyddol a Datganiad Ariannol CAM I'W GYMRYD: KD i gyflwyno'r Adroddiad Blynyddol / Datganiad Ariannol i'r Swyddfa Gyflwyno. Y WYBODAETH DDIWEDDARAF: Mae'r rhain wedi cael eu cyflwyno i'r Swyddfa Gyflwyno. |
KD i ofyn i Mind Cymru am hyn |
CPGMH/NAW4/49 - Cipolwg 3: Profiadau pobl o wasanaethau iechyd meddwl sylfaenol yng Nghymru |
Camau gweithredu |
Rhoddodd KD gyflwyniad am ganlyniadau trydydd arolwg blynyddol Gofal am brofiadau pobl o wasanaethau iechyd meddwl sylfaenol yng Nghymru. Mae'r adroddiad llawn ar gael i'w lawrlwytho yn Gymraeg ac yn Saesneg ar wefan Gofal: www.gofal.org.uk/primary-mental-health-services/ |
KD i anfon y cyflwyniad at aelodau. |
CPGMH/NAW4/50 - Siarad â fi 2 |
Camau gweithredu |
Dywedodd SS wrth y grŵp y byddai Siarad â Fi 2, strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niwed Llywodraeth Cymru 2015-10, yn cael ei lansio'r diwrnod canlynol yng Nghanolfan yr Holl Genhedloedd yng Nghaerdydd. Dywedodd SS fod y Samariaid yn falch bod y strategaeth wedi cael ei ddiweddaru. Cyfrannodd y Samariaid at ddatblygu’r strategaeth newydd, gan bwysleisio'r angen i weithredu ar draws nifer o sectorau gwahanol. |
KD i gylchredeg linc i Siarad â Fi 2 ar ôl iddo gael ei gyhoeddi.
|
CPGMH/NAW4/51 - Law yn Llaw at Iechyd Meddwl: Cynllun Cyflawni 2 |
Camau gweithredu |
Esboniodd KD mai strategaeth traws-lywodraeth Llywodraeth Cymru i wella iechyd meddwl a lles yng Nghymru yw Law yn Llaw at Iechyd Meddwl. Ychwanegodd KD bod cyfres o gynlluniau cyflenwi byrrach yn rhedeg ochr yn ochr â'r strategaeth 10 mlynedd a bod yr ail gynllun cyflanwi yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Cyflwynodd KD y ddogfen yr ysgrifennodd Cynghrair Iechyd Meddwl Cymru i fwydo i mewn i ddatblygiad cynllun cyflawni nesaf Law yn Llaw at Iechyd Meddwl.
Pwysleisiodd KD bwysigrwydd: · gweithredu ac atebolrwydd traws-lywodraeth · sicrhau bod canlyniadau Law yn Llaw at Iechyd Meddwl yn cael eu gweithredu drwy bolisïau Llywodraeth Cymru (gan gynnwys portffolios heblaw am iechyd) · casglu a chyhoeddi data clir ar ganlyniadau
Cytunodd DR y dylai gwella iechyd meddwl fod yn fusnes i bawb a'i bod yn bwysig bod yr holl Weinidogion a'r holl sectorau yn chwarae eu rhan wrth gyflwyno Law yn Llaw at Iechyd Meddwl.
Nododd KD (yn sgil y ffaith bod Law yn Llaw at Iechyd Meddwl yn strategaeth ar draws y llywodraeth) y byddai'n ddefnyddiol pe gallai Aelodau'r Cynulliad gyflwyno cwestiynau i holl Weinidogion Llywodraeth Cymru (h.y. nid i'r Gweinidog Iechyd yn unig) i holi beth y maen nhw neu eu hadrannau wedi'i gyfrannu tuag at gyflwyno Law yn Llaw at Iechyd Meddwl.
Pwysleisiodd EH pa mor bwysig ydyw bod yr ail gynllun cyflenwi yn canolbwyntio ar ganlyniadau fel y gallwn benderfynu a oes cynnydd wedi'i wneud wrth i'r strategaeth gael ei gweithredu.
Bu SS yn sôn am bwysigrwydd amlygu a lliniaru'r anghydraddoldebau sy'n wynebu pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl.
Gofynnodd SD pwy fyddai'n gyfrifol am gasglu'r data.
Dywedodd KD, at ddibenion y strategaeth, mai Llywodraeth Cymru fyddai'n gyfrifol am sicrhau bod y data cywir yn cael ei gasglu ond y realiti yw y gallai llawer o wahanol asiantaethau wneud hynny - er enghraifft: byrddau iechyd (canlyniad i gleifion a data boddhad); y trydydd sector (data ar stigma a gwahaniaethu drwy Amser i Newid Cymru); ysgolion, colegau a phrifysgolion (lles myfyrwyr/staff); cyflogwyr yn y sector cyhoeddus (lles gweithwyr), prosiectau cymunedol a gwrthdlodi (data ar les a gwydnwch cymunedol). Ychwanegodd KD y gallai casgliadau o ddata presennol ar draws gwahanol sectorau gael eu defnyddio neu'u haddasu. Byddai'n well atgyfnerthu a symleiddio'r prosesau casglu data sy'n bodoli eisoes lle y bo'n bosibl. |
KD i ofyn i Aelodau'r Cynulliad sy'n rhan o'r grŵp trawsbleidiol i gyflwyno cwestiynau i'r holl Weinidogion am eu cyfraniadau at gyflwyno Law yn Llaw at Iechyd Meddwl |
CPGMH/NAW4/52 - Hyfforddiant Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl |
Camau gweithredu |
Pwysleisiodd IB bod ei swyddfa wedi trefnu hyfforddiant Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ar gyfer Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad a staff Comisiwn y Cynulliad er mwyn gwella gwybodaeth, ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o broblemau iechyd meddwl. Bwriedir cynnal y hyfforddiant ar 29 a 30 Gorffennaf 2015. Gwahoddodd IB unrhyw aelodau o staff y Cynulliad sydd â diddordeb yn y hyfforddiant i gysylltu ag ef cyn gynted ag y bo modd. |
AMSS i gysylltu ag IB os oes ganddynt ddiddordeb mewn hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl |
Diolchodd DR i bawb am ddod. |
|